2013 Rhif 1983 (Cy. 193)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi’r manylion sy’n angenrheidiol i weithredu’r cynllun hysbysiadau cosb o dan adran 444A o Ddeddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”; mewnosodwyd adran 444A gan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003).

Diwygiwyd adrannau 444A a 444B gan O.S. 2013/1657 (Cy.155) fel bod yr adrannau hynny hefyd yn gymwys i Gymru.

Mewn perthynas â throseddau triwantiaeth o dan adran 444 o Ddeddf 1996, mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i hysbysiadau cosb a gyflwynir ar y dyddiad y deuant i rym neu ar ôl hynny, p’un ai cyn y deuant i rym neu ar ôl hynny y cyflawnwyd y drosedd (rheoliad 1(3)).

Mae rheoliad 3 yn nodi’r materion sydd i’w cynnwys mewn hysbysiad cosb.

Mae rheoliad 4 yn rhagnodi lefel y gosb sydd i’w thalu i’r awdurdod lleol, ac mae rheoliad 6 yn rhagnodi beth sy’n dystiolaeth o dalu’r gosb neu’n dystiolaeth o beidio â thalu’r gosb. Mae rheoliad 5 yn darparu ar gyfer y cyfnod y mae’r gosb i gael ei thalu ynddo, er mwyn iddi ryddhau’r derbynnydd o fod yn agored i gollfarn am y drosedd. Mae rheoliad 6 yn darparu pa awdurdod lleol y mae’r gosb i gael ei thalu iddo.

Mae rheoliad 7 yn rhagnodi’r cyfnod y caniateir i achos gael ei gychwyn ynddo o dan adran 444A(3) o Ddeddf 1996 fel cyfnod o 42 o ddiwrnodau.

Mae rheoliad 8 yn rhoi manylion am yr amgylchiadau hynny pan ganiateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl.

Mae rheoliadau 10 i 13 yn rhagnodi pwy sy’n cael dyroddi hysbysiadau cosb.

Mae rheoliadau 14 - 18 yn gwneud llunio cod ymddygiad lleol a chynnal ymgynghoriad arno yn ofynnol, er mwyn i hysbysiadau cosb gael eu dyroddi yn unol â’r cod lleol.

Mae rheoliadau 19 - 21 yn rhagnodi bod copi o’r hysbysiad cosb i gael ei ddarparu i’r awdurdod lleol y mae rhaid iddo gadw cofnodion yn unol â’r manylion a roddir. Os oes angen gwybodaeth ar Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â hysbysiadau cosb, rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu’r wybodaeth honno iddynt hwy.

Mae rheoliadau 22 a 23 yn rhagnodi sut y mae’r hysbysiad cosb i gael ei gyflwyno a sut y mae’r awdurdodau lleol i wario’r symiau y maent yn eu cael.


2013 Rhif 1983 (Cy. 193)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2013

Gwnaed                                     7 Awst 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       12 Awst 2013

Yn dod i rym                              2 Medi 2013

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 444A(3) a (6), 444B a 569 o Ddeddf Addysg 1996([1]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2013 a deuant i rym ar 2 Medi 2013.

(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Mewn perthynas â throseddau o dan adran 444 o Ddeddf 1996, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i hysbysiadau cosb a ddyroddir ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny, p’un ai cyn y dyddiad hwnnw, ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl y dyddiad hwnnw y cyflawnwyd y drosedd honedig.

Dehongli

2.(1)(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cod ymddygiad” (“code of conduct”) yw cod ymddygiad yr awdurdod lleol sydd mewn grym am y tro yn unol â rheoliadau 14 i 16;

ystyr “darpariaeth addysgol amgen” (“alternative educational provision”) yw un o’r canlynol—

(a)     addysg a ddarperir gan awdurdod lleol ar gyfer plentyn ac eithrio mewn ysgol neu yng nghartref y plentyn drwy drefniadau a wnaed o dan adran 19 o Ddeddf 1996([2]);

(b)     addysg mewn lleoliad y tu allan i fangre’r ysgol lle y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ac y mae’n ofynnol gan yr awdurdod priodol (o fewn ystyr adran 444ZA([3]) o Ddeddf 1996) i’r plentyn ei mynychu at ddibenion cael cyfarwyddyd neu hyfforddiant;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

ystyr “derbynnydd” (“recipient”) yw’r person y rhoddir yr hysbysiad cosb iddo yn unol ag adran 444A(1) o Ddeddf 1996; ac

ystyr “hysbysiad cosb” (“penalty notice”) yw hysbysiad cosb a ddyroddir yn unol ag adran 444A(1) o Ddeddf 1996.

(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at ddirprwy bennaeth neu bennaeth cynorthwyol yn cynnwys cyfeiriad at berson sy’n gweithredu fel dirprwy bennaeth neu bennaeth cynorthwyol, yn ôl y digwydd([4]).

Ffurf a chynnwys yr hysbysiadau cosb

3. Rhaid i hysbysiad cosb roi’r manylion hynny am yr amgylchiadau yr honnir iddynt ffurfio’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi, sy’n angenrheidiol i roi gwybodaeth resymol o’r drosedd, a rhaid iddo gynnwys—

(a)     enw a chyfeiriad y derbynnydd;

(b)     enw a chyfeiriad y plentyn sy’n—

                           (i)    methu â mynychu’r ysgol yn rheolaidd;

                         (ii)    methu â mynychu’r ddarpariaeth addysgol amgen yn rheolaidd, ac, fel y bo’n gymwys—

(aa)        enw’r ysgol lle y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig, os yw’n gymwys; a

(bb)       y lleoliad lle y darperir y ddarpariaeth addysgol amgen ar gyfer y plentyn neu y mae’n ofynnol i’r plentyn ei fynychu,

yn ôl y digwydd;

(c)     enw a manylion swyddogol y swyddog awdurdodedig sy’n dyroddi’r hysbysiad;

(d)     mewn achos o drosedd o dan adran 444 o Ddeddf 1996, y cyfnod y cyflawnwyd y drosedd ynddo a dyddiad dyroddi’r hysbysiad;

(e)     y swm sydd i’w dalu fel cosb, os telir ef o fewn 28 o ddiwrnodau yn unol â rheoliad 4, a’r swm, yn unol â’r rheoliad hwnnw os na thelir y swm o fewn y cyfnod hwnnw ond os telir ef o fewn 42 o ddiwrnodau;

(f)      enw a chyfeiriad yr awdurdod lleol y mae’r gosb i’w thalu iddo yn unol â rheoliad 6 ac y caniateir i unrhyw ohebiaeth mewn perthynas â’r hysbysiad cosb gael ei hanfon iddo;

(g)     y dull neu’r dulliau y caniateir i’r gosb gael ei thalu drwyddynt;

(h)     y cyfnod ar gyfer talu’r gosb, yn unol â rheoliad 5;

(i)      datganiad i’r perwyl y bydd talu o fewn y cyfnod hwnnw yn rhyddhau’r derbynnydd o fod yn agored i gollfarn am y drosedd;

(j)      y canlyniadau os na thelir y gosb cyn i’r cyfnod ar gyfer ei thalu ddod i ben; a

(k)     ar ba seiliau y caniateir tynnu’r hysbysiad yn ôl.

 

Y gosb

Swm y gosb

4. Dyma swm y gosb sydd i’w dalu—

(a)     £60, pan fo’r swm yn cael ei dalu cyn pen 28 o ddiwrnodau ar ôl cael yr hysbysiad cosb; neu

(b)     £120, pan na fo paragraff (a) yn gymwys ond pan fo’r swm yn cael ei dalu cyn pen 42 o ddiwrnodau ar ôl cael yr hysbysiad cosb.

Y cyfnod ar gyfer talu’r gosb

5. Cyn pen 42 o ddiwrnodau ar ôl cael yr hysbysiad cosb yw’r amser erbyn pryd y mae’r gosb i’w thalu([5]).

Talu’r gosb

6.(1)(1) Mae’r gosb yn daladwy i’r canlynol—

(a)     yr awdurdod lleol y mae plentyn y derbynnydd yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a leolir yn ei ardal;

(b)     yr awdurdod lleol y mae’r plentyn yn preswylio yn ei ardal, pan na fo’r plentyn, ar yr adeg y rhoddir yr hysbysiad cosb, yn ddisgybl cofrestredig mewn unrhyw ysgol, p’un a yw hynny oherwydd gwaharddiad parhaol neu fel arall.

(2) Mae tystysgrif yr honnir ei bod wedi ei llofnodi gan swyddog priodol awdurdod lleol i’r perwyl bod derbynnydd hysbysiad cosb wedi talu neu nad yw wedi talu’r swm sy’n ddyledus ganddo ar y dyddiad a nodir ar y dystysgrif neu cyn y dyddiad hwnnw, yn dderbyniol fel tystiolaeth mewn achosion cyfreithiol ac yn dystiolaeth o’r materion sydd wedi eu nodi arni.

Effaith yr hysbysiad cosb

Y cyfnod lle na chaniateir cychwyn achosion

7. 42 o ddiwrnodau yw’r cyfnod a ragnodir at ddibenion adran 444A(3) o Ddeddf 1996 gan ddechrau ar y dyddiad y mae’r derbynnydd yn cael yr hysbysiad cosb.

Tynnu’n ôl

Tynnu hysbysiad cosb yn ôl

8.(1)(1) Caiff yr awdurdod lleol a enwir yn yr hysbysiad fel yr awdurdod y mae’r taliad i gael ei wneud iddo, dynnu’r hysbysiad cosb yn ôl mewn unrhyw achos pan fo—

(a)     yr awdurdod hwnnw yn penderfynu—

                           (i)    na ddylai fod wedi ei ddyroddi; neu

                         (ii)    na ddylai fod wedi ei ddyroddi i’r person a enwyd fel derbynnydd; neu

(b)     yn ymddangos i’r awdurdod bod yr hysbysiad yn cynnwys gwallau perthnasol.

(2) Caniateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1) p’un a yw’r cyfnod ar gyfer talu, y cyfeirir ato yn yr hysbysiad yn unol â rheoliad 3(h), wedi dod i ben ai peidio, a ph’un a yw’r gosb wedi ei thalu ai peidio.

(3) Pan fo hysbysiad cosb wedi ei dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1)—

(a)     rhaid i hysbysiad o’r ffaith ei fod wedi ei dynnu’n ôl gael ei roi i’r derbynnydd; a

(b)     rhaid i unrhyw swm a dalwyd fel cosb yn unol â’r hysbysiad hwnnw gael ei dalu’n ôl i’r person a’i talodd.

(4) Ac eithrio fel a ddarperir ym mharagraff (5), ni chaniateir cychwyn achos, ac ni chaniateir parhau ag achos yn erbyn y derbynnydd am y drosedd y mae’r hysbysiad cosb a gafodd ei ddyroddi ac a gafodd ei dynnu’n ôl yn ymwneud â hi, neu, pan fo’r hysbysiad cosb yn ymwneud â throsedd o dan is-adran (1) o adran 444 o Ddeddf 1996, am drosedd o dan is-adran (1A) sy’n codi o’r un amgylchiadau.

(5) Ond pan fo hysbysiad cosb wedi ei ddyroddi, a’i dynnu’n ôl yn unol â pharagraff (1)(b), caniateir i achos barhau neu gychwyn—

(a)     am y drosedd yr oedd yr hysbysiad cosb a ddyroddwyd yn ymwneud â hi; neu

(b)     pan fo’r hysbysiad cosb yn ymwneud â throsedd o dan is-adran (1) o adran 444 o Ddeddf 1996, am drosedd o dan is-adran (1A) o’r adran honno sy’n codi o’r un amgylchiadau â’r drosedd a grybwyllwyd gyntaf,

os bodlonir y ddwy amod a ganlyn—

                           (i)    dyroddwyd hysbysiad cosb pellach mewn cysylltiad â’r drosedd, neu, yn achos is-baragraff (b), y drosedd a grybwyllwyd gyntaf, ar yr un adeg â thynnu’r hysbysiad cosb cyntaf yn ôl; a

                         (ii)    ni thalwyd y gosb yn unol â’r hysbysiad cosb pellach hwnnw yn unol â gofynion y Rheoliadau hyn.

Peidio â thalu’r gosb

9. Rhaid i’r awdurdod dynnu’r hysbysiad cosb yn ôl pan na fo—

(a)     y gosb wedi ei thalu’n llawn cyn i’r cyfnod i’w thalu ddod i ben; a

(b)     yr awdurdod lleol a enwir yn yr hysbysiad yn unol â rheoliad 3(f) wedi cychwyn achos yn erbyn y derbynnydd am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi, nac yn ystyried achos o’r fath.

Dyroddi hysbysiadau cosb

Awdurdod i ddyroddi hysbysiadau cosb

10.(1)(1) Caiff pennaeth awdurdodi dirprwy bennaeth neu bennaeth cynorthwyol i ddyroddi hysbysiadau cosb. 

(2) Ond ni chaiff pennaeth awdurdodi unrhyw aelod arall o staff i ddyroddi hysbysiadau cosb.

Cyfyngiad ar ddyroddi hysbysiadau cosb gan ysgolion

11. Dim ond mewn cysylltiad â phlentyn sy’n ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol lle y mae’n gweithio y caiff pennaeth neu ddirprwy bennaeth neu bennaeth cynorthwyol, yn ôl y digwydd, ddyroddi hysbysiad cosb.

Cyfyngiad ar ddyroddi hysbysiadau cosb gan awdurdodau lleol

12.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff swyddog awdurdod lleol ddyroddi hysbysiad cosb mewn cysylltiad â phlentyn, ac eithrio—

(a)     plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol yn ardal yr awdurdod hwnnw;

(b)     plentyn y mae’r awdurdod hwnnw wedi gwneud trefniadau darpariaeth addysgol amgen ar ei gyfer (p’un ai yn ardal yr awdurdod hwnnw ai peidio); neu

(c)     plentyn, ar yr adeg y rhoddir yr hysbysiad, nad yw’n ddisgybl cofrestredig mewn unrhyw ysgol (p’un a yw hynny oherwydd gwaharddiad parhaol neu fel arall) ond sy’n preswylio yn ardal yr awdurdod hwnnw.

(2) Pan fo awdurdod lleol wedi gwneud cytundeb ag awdurdod lleol arall i swyddog yr awdurdod arall hwnnw ddyroddi hysbysiadau cosb mewn cysylltiad â phlentyn y mae paragraff (1)(a) neu (b) yn gymwys iddo, caiff swyddog o’r awdurdod arall hwnnw ddyroddi hysbysiad cosb mewn cysylltiad â’r plentyn hwnnw.

Nifer o hysbysiadau cosb mewn cysylltiad â’r un drosedd

13. Pan fo mwy nag un person yn agored i gollfarn am drosedd, caniateir dyroddi hysbysiad cosb ar wahân i bob person.

 

Codau ymddygiad

Y gofyniad i lunio cod ymddygiad

14. Rhaid i bob awdurdod lleol lunio cod ymddygiad sy’n nodi mesurau i sicrhau cysondeb wrth ddyroddi hysbysiadau cosb, gan gynnwys—

(a)     dull i osgoi dyroddi hysbysiadau cosb dyblyg;

(b)     mesurau i sicrhau na ddyroddir hysbysiad cosb mewn cysylltiad â throsedd pan fo achos am y drosedd honno o dan adran 444 o Ddeddf 1996 (neu drosedd o dan is-adran (1A) o’r adran honno sy’n codi o’r un amgylchiadau) yn ôl y digwydd o dan ystyriaeth gan yr awdurdod lleol neu wedi ei gychwyn ganddo;

(c)     yr adegau pan fydd yn briodol ddyroddi hysbysiad cosb ar gyfer trosedd;

(d)     y nifer uchaf o hysbysiadau cosb y caniateir eu dyroddi i un rhiant mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis; a

(e)     trefniadau ar gyfer cydgysylltu rhwng yr awdurdod lleol, yr awdurdodau lleol cyfagos lle y bo’n briodol, yr heddlu a swyddogion awdurdodedig([6]).

Ymgynghori ar y cod ymddygiad

15.(1)(1) Wrth lunio cod ymddygiad rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â chyrff llywodraethu, penaethiaid a phrif swyddog yr heddlu ar gyfer yr ardal heddlu sy’n cynnwys y cyfan o ardal yr awdurdod lleol, neu ran ohoni.

(2) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “ardal heddlu” yw ardal heddlu a ddarperir ar ei chyfer gan adran 1 o Ddeddf yr Heddlu 1996([7]);

mae i “prif swyddog yr heddlu” yr ystyr a roddir i “chief officer of police” gan adran 101(1) o’r Ddeddf honno.

Cydymffurfio â’r cod ymddygiad

16. Rhaid i unrhyw berson sy’n dyroddi hysbysiad cosb wneud hynny yn unol â’r cod ymddygiad.

Gwybodaeth

Copi o hysbysiad cosb i’w roi i awdurdod lleol

17. Rhaid i berson sy’n dyroddi hysbysiad cosb (heb oedi) ddarparu copi i’r awdurdod lleol a enwir yn yr hysbysiad fel yr awdurdod y mae’r taliad i gael ei wneud iddo yn unol â rheoliad 3(f).

Cofnodion

18. Rhaid i awdurdod lleol gadw cofnodion am hysbysiadau cosb, a rhaid iddynt gynnwys y canlynol—

(a)     copi o bob hysbysiad a ddyroddir;

(b)     cofnod o’r holl daliadau a wnaed, a’r dyddiadau y’u gwnaed;

(c)     p’un a dynnwyd yr hysbysiad yn ôl ai peidio, ac ar ba sail; a

(d)     p’un a erlynwyd y derbynnydd am y drosedd y dyroddwyd yr hysbysiad amdani ai peidio (neu, pan fo’r hysbysiad yn ymwneud â throsedd o dan is-adran (1) o adran 444 o Ddeddf 1996, am drosedd o dan is-adran (1A) sy’n codi o’r un amgylchiadau).

Gwybodaeth i Weinidogion Cymru

19. Rhaid i awdurdod lleol roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae ei hangen arnynt mewn cysylltiad â hysbysiadau cosb.

Darpariaethau terfynol

Cyflwyno hysbysiadau

20.(1)(1) Pan fo hysbysiad cosb wedi ei gyflwyno drwy’r post dosbarth cyntaf([8]) bernir bod y cyflwyno wedi cael effaith, oni phrofir i’r gwrthwyneb, ar yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl i’r hysbysiad gael ei bostio.

(2) Yn y rheoliad hwn ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy’n ŵyl banc o fewn ystyr Deddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971([9]).

Symiau y mae awdurdodau lleol yn eu cael

21.(1)(1) Swyddogaethau awdurdod lleol a bennir at ddibenion adran 444A(6)(a) o Ddeddf 1996 yw dyroddi a gorfodi hysbysiadau cosb, ac erlyn y derbynwyr hynny nad ydynt yn talu.

(2) I’r graddau nad yw’r symiau a gaiff awdurdod lleol yn cael eu defnyddio at ddibenion y swyddogaethau a bennir ym mharagraff (1), rhaid iddynt gael eu talu i Weinidogion Cymru.

 

 

 

 

Carwyn Jones

 

Prif Weinidog Cymru

 

7 Awst 2013

 



([1])           1996 p.56; mewnosodwyd adrannau 444A a 444B gan adran 23(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (p. 38); mae adran 444A wedi ei diwygio gan adran 117 o Ddeddf Addysg 2005 (p.18) a pharagraff 3 o Atodlen 18 iddi, ac adran 110 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40). Rhoddwyd cyfeiriadau at “local authority” yn lle “local education authority” gan O.S. 2010/1158. Mae cymhwysiad adrannau 444A a 444B yn gymwys i Gymru yn rhinwedd O.S. 2013/1657 (Cy.155).

([2])           Diwygiwyd adran 19 gan adrannau 47 a 57 o Ddeddf Addysg 1997 (p.44), ac Atodlen 8 iddi.

([3])           Mewnosodwyd adran 444ZA gan adran 116 o Ddeddf Addysg 2005.

([4])           Yn ôl adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996 (p.56), mae “head teacher” yn cynnwys pennaeth dros dro.

([5])           Os telir y gosb o fewn y cyfnod hwn, ni ellir collfarnu'r derbynnydd o'r drosedd o dan adran 444A(4) o Ddeddf Addysg 1996 (p.56) y mae'r hysbysiad yn ymwneud â hi.

([6])           Mae “authorised officer” wedi ei ddiffinio yn adran 444B(4) o Ddeddf Addysg 1996 (p.56) mewn perthynas â hysbysiadau cosb o dan adran 444A o'r Ddeddf honno.

([7])           1996 p.16, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

([8])           Mae adran 572 o Ddeddf Addysg 1996 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyflwyno hysbysiadau.

([9])           1971 p.80.